Neidio i'r cynnwys

Barbariad

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Barbariad a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 20:33, 7 Gorffennaf 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Barbariad
Pen barbariad (penddelw o 2g)
Enghraifft o'r canlynolsarhad ethnig Edit this on Wikidata
Mathpobl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Erbyn heddiw, unigolyn sy’n ymddwyn mewn ffordd anwar neu anniwylliedig yw barbariad,[1] ond gynt cyfeiriai'r gair at ddiethryn nad oedd ei iaith neu ei ymddygiad yn cydymffurfio â normau cymdeithas y cafodd ei hun ynddi.

Mae'r term yn tarddu o'r gair Groeg βάρβαρος (barbaros; lluosog βάρβαροι, barbaroi). Yng Ngroeg yr Henfyd, defnyddiai'r Groegiaid y term i gyfeirio at y rhai nad oeddent yn siarad Groeg ac yn dilyn eu harferion. Weithiau roedden nhw'n hefyd yn defnyddio'r gair i gyfeirio at Roegiaid ar gyrion y byd Groeg a siaradai â thafodieithoedd rhyfedd.

Yn Rhufain hynafol, benthycodd y Rhufeiniaid y term a'i ddefnyddio i gyfeirio at lwythau nad oeddent yn Rhufeiniaid, megis y Berberiaid , Germaniaid , Celtiaid, Iberiaid, Thraciaid, Illyriaid a Sarmatiaid.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  barbariad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2023.