Trysor prin y moroedd; BYD NATUR.
Byline: Gan BETHAN WYN JONESCWREL! Mae'r enw bob amser yn gwneud i mi feddwl am nofio mewn mor cynnes, trofannol yn gwylio bob math o bysgod egsotig ac yn edrych ar y rhyfeddod yma rydan ni'n ei alw'n gwrel.
Ond be yn union ydi'r cwrel? Wel, creaduriaid bach sy'n byw mewn cytrefi mawr o unigolion sy'n union 'run fath ydyn nhw, a'r grwp bach dinod yma sy'n gyfrifol am adeiladau'r riffiau mawr gewch chi ym moroedd trofannol y byd.
Maen nhw'n gwneud hynny drwy ryddhau calsiwm carbonad sy'n cael ei alw'n aragonite i wneud y sgerbwd caled.
A dyma be gewch chi yn Y Barriff Mawr, Awstralia. Fel arfer ychydig iawn o faeth sydd yn y dwr o'u hamgylch nhw - wir, mi all gormod o faeth yn y dwr eu lladd nhw.
Am fod yna gymaint o'r anifeiliaid bach yma yn byw hefo'i gilydd yng nghanol y sgerbydau anferth, mae hyn hefyd yn denu amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion eraill i fyw o'u cwmpas. A dyma'r rheswm pam eich bod chi'n aml iawn yn gweld pysgod lliwgar tu hwnt yn nofio'n braf o gwmpas y riffiau cwrel yma. Mae'r calsiwm carbonad sy'n ffurfio'r sgerbwd mawr yn ddefnyddiol i greaduriaid eraill sy'n byw yn y mor - ac mae'r rhain yn cael eu galw'n erydwyr byw. Maen nhw'n cynnwys anifeiliaid fel y molysgiaid, malwod y mor hynny ydi, llyngyr, sbwng, cramenogion, draenog y mor a physgod, ac maen nhw'n defnyddio bob math o dechnegau i erydu sy'n cynnwys tyllu, drilio, a chrafu.
Wrth fynd ati fel hyn, mae'r anifeiliaid yma'n gyfrifol am gynhyrchu'r tywod cwrel gwyn, man, man sy'n nodweddiadol o ynysoedd trofannol. Wel, nhw sy'n gyfrifol am ran gynta'r broses.
Mae'r darnau o gwrel sy'n cael eu rhyddhau yn cael eu troi'n dywod man gan erydwyr byw mewnol - petha fel alga, ffwng, bacteria, sbwng ag ati. 'Microbores' ydi'r term swyddogol arnyn nhw. A naci, nid pobol sy'n borio chydig bach arnoch chi ydi 'microbores', ond tyllwyr pitw bach.
Mae pysgod hefyd yn erydu cryn dipyn ar y riffiau cwrel, yn enwedig y pysgod parot (Chlorurus gibbus, parrotfish). Mae'n debyg eu bod nhw'n medru gwneud cryn dipyn o ddifrod am fod ganddyn nhw gyhyrau cryf iawn yn eu gen, ac mae ganddyn nhw felin yn y ffaryncs sy'n malu'r cwrel yn ddarnau man o dywod - yn ddigon tebyg i'r ffordd mae yd yn cael ei falu yn y felin.
Mi gewch chi gwrel mewn dyfroedd tymherus a throfannol, ond fel arfer oddi fewn i tua 30 gradd i'r gogledd a'r de o'r cyhydedd y gwelwch chi nhw. Mae'n debyg nad ydach chi'n debyg o'u gweld mewn dyfroedd sydd a thymheredd is na 180C.
Fel rheol mae "pen" y cwrel yn cael ei ffurfio, ac mae hwn yn cael ei adnabod fel un organeb, er ei fod o mewn gwirionedd yn cynnwys miloedd o bolypau unigol.
Ychydig o filimedrau mewn diamedr ydi un polyp, ond yn enetig maen nhw i gyd yn union yr un fath. I bob pwrpas, ryw sach fechan ydi pob polyp a chylch o dentaclau o gwmpas yr agoriad i'r sach.
Yng nghanol y sach yma, mae'r rhan sy'n gweithredu fel y stumog a'r coluddion, ac ar y gwaelod mae angor sy'n dal yr anifail yn sownd.
Mae'r cwrel yn gallu dal plancton ar gyfer eu bwyd drwy ddefnyddio eu tentaclau i saethu colyn pigog at beth bynnag sy'n pasio. Ond maen nhw hefyd yn cael y rhan fwyaf o'u maeth gan alga ungell sy'n cyd-fyw hefo nhw.
O ganlyniad mae'r rhan fwyaf o'r cwrelau yn byw mewn dwr bas, clir ar ddyfnder sy'n llai na dau gan medr, fel y rhai a welwn yn y Barriff Mawr.
Mae'r cwrelau eraill, sydd ddim yn cyd-fyw hefo'r alga yma, yn gallu byw mewn dyfroedd llawer oerach a dyfnach, ac mi all rhai fel Lophelia fyw i ddyfnder o 3000 o fetrau. Un enghraifft o'r rhain ydi Tomen Darwin sydd i'w chael i'r gogledd-orllewin o'r Alban.
Mae cwrelau hefyd i'w cael oddi ar arfordir talaith Washington ac Alasga.
Mae'r enw Lophelia, gyda llaw, yn tarddu o'r geiriau Groeg 'lophos' a 'helioi', a'r ystyr ydi 'cudyn o haul', am ei fod yn cyfeirio at y polypau unigol hefo'u tentaclau yn edrych yn debyg i'r haul.
Yn anffodus, fel sawl peth arall ym myd natur, mae'r cwrelau o dan fygythiad, a dangosodd astudiaethau diweddar y gallai tua thraean o gwrelau'r byd fod mewn perygl oherwydd cynhesu yn yr hinsawdd, llygredd a gorbysgota. Trist ynte?
CAPTION(S):
Mae pysgod yn cael eu denu at y cwrel i chwilio am fwyd
![]() ![]() ![]() ![]() | |
Publication: | Daily Post (Liverpool, England) |
---|---|
Date: | Mar 11, 2009 |
Words: | 757 |
Previous Article: | Tybed pa lyfrau fyddech chi'n eu dewis ar eich rhestr o oreuon? |
Next Article: | Y chwiban bren wedi taro nodyn; LLEN Y LLYSIAU. |
Topics: |